Cofnodion yr unfed gyfarfod ar bymthegfed ar hugain o’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ddyfrffyrdd

Ystafell Briffio’r Cyfryngau, y Senedd, Bae Caerdydd

Dydd Mercher 19 Mawrth 2014

18.10

 

 

Aelodau’r Cynulliad yn bresennol:

 

Nick Ramsay AM (Cadeirydd) (Ceidwadwyr Cymru, Mynwy) - am ran o’r cyfarfod.

 

Yn bresennol

 

Y Cyngh. Bob Wellington - Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Christina Harrhy - Prif Swyddog Gwasanaethau’r Gymdogaeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Andrew Stumpf – Pennaeth Glandŵr Cymru – Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Cymru

Mark Lang – Cadeirydd Glandŵr Cymru

Bernard Illman – Ymddiriedolaeth Camlesi Sir Fynwy, Brycheiniog a’r Fenni

Tim Harris - Ymddiriedolaeth Camlesi Sir Fynwy, Brycheiniog a’r Fenni

Peter Cole – Uwch-ranbarth Twristiaeth

Phil Hughes – Canolfan Gamlas Fourteen Locks

Tom Maloney – Canolfan Gamlas Fourteen Locks

Gwyn Lewis – Ramblers Cymru

Mair Bevan – Ramblers Cymru

Martin Davies – Cymdeithas Gamlas Abertawe

David Henry – Cymdeithas Gamlas Abertawe

Dr Ruth Hall – Aelod o Bartneriaeth Glandŵr Cymru, Cymru Gyfan

Richard Owen - Grŵp Perchnogion Pysgodfa Teifi

John Griffith – Cefnogwr annibynnol

Rob Frowen – Rheolwr Datblygu Economaidd, Cyngor Dinas Casnewydd

Donna Coyle – Aelod o Bartneriaeth Glandŵr Cymru, Cymru Gyfan

Jane Lorimer – Cyfarwyddwr, Sustrans Cymru

Carole Jacob – Cyfeillion y Ddaear Torfaen

Pamela James – Cyfeillion y Ddaear Torfaen

Brian Hancock – Cefnogwr annibynnol

Wyn Mitchell – Ymddiriedolaeth Camlesi Sir Fynwy, Brycheiniog a’r Fenni

Cap. Roger Francis – Cadeirydd, Ymddiriedolaeth Camlesi Sir Fynwy, Brycheiniog a’r Fenni

Stephen Rowson – Hanesydd ar gamlesi

Chris Yewlett – Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol Prifysgol Caerdydd

Gareth Hughes – Ymddiriedolaeth Camlas Castell-nedd

Chris Charters – Cymdeithas Gweithwyr Awyr Agored Proffesiynol Prydain

Dr Julia Fallon – Prifysgol Fetropolitan Caerdydd

Matthew Francis – Grayling

Rebecca Holmes - Grayling

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 18.10

 

Eitem 1: Cyflwyniad gan y Cyngh. Bob Wellington, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

 

Amlinellodd Bob Wellingtonweledigaeth Torfaen ar gyfer twf, a phwysigrwydd arian y cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, yn ogystal â £40 miliwn o fuddsoddiad gan y sector preifat. Gellir defnyddio hwn fel llwyfan ar gyfer rhagor o gyllid. Nid yw adfer camlesi ynglŷn â threftadaeth yn unig, mae hefyd ynglŷn â darparu cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc, a’r cyfle i ddysgu sgiliau newydd, ac ennill cymwysterau fel y Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol. Mae manteision pellach ar fywydau pobl o gynorthwyo pobl ifanc i gael gwaith. Byddai manteision economaidd a chymdeithasol enfawr yn dod yn sgîl adfer Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog.

 

Eitem 2: Cyflwyniad gan Christina Harrhy, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdogaeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

 

Soniodd Christina Harrhy am uchelgais Torfaen i gymryd mantais lawn o gynlluniau adfywio canol trefi ac ochr camlesi, gan ddefnyddio cyllid y cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Mae Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn ased eiconig, a hefyd mae’n rhan o Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon. Mae hyn wedi’i wreiddio yn y cysyniad o Ddinas-ranbarth. Eglurodd Christina arwyddocâd hanesyddol a chyfredol treftadaeth Torfaen. Dangosodd fap o Torfaen, sy’n dangos eu cynllun i roi sglein ar sgiliau’r ardal ogleddol ac i hwyluso dosbarthiad y sgiliau hyn i weddill y rhanbarth. Mae yna gynlluniau i ddefnyddio twristiaeth fel sbardun economaidd ac i gysylltu cyrchfannau i dwristiaid. Byddai’r gamlas yn gyfle i annog mewnfuddsoddi drwy dwristiaeth, ac i adfywio am y tymor hwy. Byddai hyn yn dod â chyflogaeth a sgiliau i’r ardal wedyn. Yng Nghwmbrân, y bwriad yw y bydd ardal newydd y gamlas yn ganolbwynt ar gyfer yr ardal ehangach. Bwriada Cyngor Torfaen ddefnyddio arian y cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid i gyflawni effeithiau ‘cul ond dwfn’, ac i greu swyddi yn bennaf oll. Rhaid gwario’r arian hwn mewn dwy flynedd. Parhaodd Christina drwy esbonio’r dangosydd perfformiad allweddol ar gyfer y rhaglen, y bydd modd ei gyflawni drwy bartneriaethau a chydweithio yn unig.

 

Esboniodd Christina y broses o wneud cais am arian gan y cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a phwysigrwydd arian Ewropeaidd ar gyfer y prosiect. Eglurodd fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi gorfod adolygu eu dyraniadau cyllid gwreiddiol oherwydd iddo gael dyraniad llai o gyllid na’r cais gwreiddiol. Rhoddodd ragor o fanylion am y cynlluniau ar gyfer Pont-y-pŵl ac adfywio ochr y gamlas, gan ychwanegu y bydd angen buddsoddiad mawr o’r sector preifat ar gyfer y lleiniau tir ar ochr y gamlas. Rhagwelir y ceir arian Ewropeaidd i helpu i ddod â’r gamlas i ganol Pont-y-pŵl, ac i wneud y cysylltiad corfforol â Chwmbrân, gan gynnwys llwybrau beicio a llwybrau troed.

 

Roedd cydnabyddiaeth bod angen pennu cwmpas yn gywir, a darparu tystiolaeth o’r manteision a ddeuai yn sgîl adfywio’r gamlas, ond mae’r gamlas wedi’i chynnwys yn y cynllun datblygu lleol. Mae Partneriaeth Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn gweithio’n dda iawn ac mae’n adfer y gamlas yn Nhŷ Coch. Mae dymuniad i gwblhau "y ddolen" gyda chyswllt llwybr beicio o’r Crumlin Arms, a fydd yn cynnwys Coedwig Cwm-carn.  

 

Nod y prosiect Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yw creu cyfanswm o 674 o swyddi gan ddefnyddio arian y prosiect hwnnw.  

 

Bydd ardal ochr y gamlas, Cwmbrân, yn lle da ar gyfer gwesty, gan ddod yn ardal ar gyfer gweithgareddau hamdden a diwylliant yn bennaf, yn hytrach nag yn ardal manwerthu. Efallai bod problemau o ran caffael tir o’r ystâd ddiwydiannol ar ochr y gamlas, ac adleoli busnesau, a dim ond amser byr sydd i wneud hyn. Mae angen dod o hyd i 25% o arian cyfatebol o hyd; mae hynny’n anodd pan mae awdurdodau lleol yn cwtogi, ond mae gobeithion y gellir denu datblygwr ymrwymedig i adeiladu’r tai ar ochr y gamlas.

 

Nick Ramsay (Cadeirydd): Croesawodd y datblygiad yng Nghwmbrân a nododd ei gefnogaeth i gynlluniau’r cyngor.

 

Eitem 3: Sesiwn drafodaeth

 

Gofynnodd Brian Hancocki Christina sôn am y bartneriaeth rhwng yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd a Chyngor Torfaen.

 

Dywedodd Christina Harrhymai Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yw perchennog y gamlas, ond mae Prif Weithredwr y Cyngor yn aelod o’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd. Mae Christina hefyd yn aelod o Bartneriaeth Glandŵr Cymru, Cymru Gyfan.  Felly mae gan y cyngor gysylltiadau da iawn â’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd a bydd yn gweithio mewn partneriaeth agos â hi.

 

Cap. Llongyfarchodd Roger Francis Christina ar y cyflwyniad a’r cyllid yr oedd hi wedi’i sicrhau. Pwysleisiodd fod y newyddion ynghylch camlesi yn gadarnhaol ar hyn o bryd, gan gynnwys sylw ar raglen Countryfile y BBC a osododd garreg mewn wal loc ar Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog. Mewn arolwg diweddar gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog nodwyd mai’r gamlas oedd yr atyniad mwyaf poblogaidd, yr ymwelwyd â hi amlaf yn y Parc.

 

Cadarnhaodd Christina Harrhyyn wir fod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen berthynas weithiol dda iawn gyda’r Parc Cenedlaethol.

 

Nododd Jane Lorimer, dan y dyraniadau diwygiedig ar gyfer Cwmbrân, roedd hi’n siomedig o weld y bydd cyfran sylweddol o gyllid ar gyfer cerdded a beicio yn cael ei dorri.

 

Eglurodd Christina Harrhyfod cerdded a beicio yn ganolog ar gyfer cysylltedd yn yr ardal. Maent yn awyddus i ddenu arian o gyllidebau eraill fel Trafnidiaeth a chyllid Ewropeaidd hefyd.

 

Eglurodd y Cynghorydd Bob Wellington nad yw ei ddyheadau ar gyfer Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog i Gasnewydd yn unig, ond hefyd ar gyfer y gamlas i Grymlyn. Ychwanegodd fod pobl yn dod i Gymru o bob rhan o Ewrop i feicio mynydd ac mae hwn yn faes allweddol. Nid yw Aelodau’r Cynulliad o reidrwydd yn sylweddoli pa gyfleoedd mawr sydd gennym yn Ne-ddwyrain Cymru ar gyfer hyn, a diddordebau eraill.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Wellington, ymhen mis neu ddau y byddai’n galw cyfarfod ac yn gwahodd pob Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol dros ardal Casnewydd, Caerffili, Sir Fynwy a Thorfaen, i’r cyfarfod er mwyn pwysleisio pwysigrwydd y rhanbarth hwn, a’i bosibiliadau. Cynhwysodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth dwristiaeth, yn benodol, yn ei chynlluniau ar gyfer y Dinas-ranbarthau, a nododd Mr Wellington pa mor bwysig oedd lobïo’r Gweinidog ac Aelodau’r Cynulliad ac ASau er mwyn cael eu cefnogaeth. Mae hyn yn bwysig iawn o safbwynt Dinas-rhanbarth.

 

Gofynnodd Mark Langi Christina lle y mae hi’n gobeithio y byddai’r swyddi yn cael eu creu o dan y cynllun.

 

Nododd Christina Harrhyy byddant yn y maes adeiladu’n bennaf, pan fydd y tai newydd yn cael eu hadeiladu a’r gamlas yn ailagor.

 

Gobeithiai’r Cynghorydd Wellington y byddai’r cynllun yn ailadrodd llwyddiannau cynlluniau adfywio camlesi ym Manceinion, Birmingham, a’r Alban.

 

Nododd Christina Harrhyna fyddai datblygiad ochr y gamlas yn arwain at greu swyddi yn y diwydiant hamdden yn unig, ond y gobaith yw y bydd clwstwr digidol o gwmnïau technoleg yn dod i Gwmbrân hefyd. Ychwanegodd Mark Lang y bydd datblygu’r gamlas hefyd yn cadw sgiliau lleol yn yr ardal.

 

Nododd Martin Daviesfod y dyheadau ar gyfer Torfaen hefyd yr hyn y byddai ef yn gobeithio ei gyflawni drwy integreiddio’r camlesi yn ardal Abertawe. Fodd bynnag, heb y cyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, beth y gellir ei ddisgwyl gan lywodraeth leol yn hyn o beth?

 

Awgrymodd Christina Harrhyfod Torfaen yn ffodus o gael y cyllid hwn, ond gallai dinas-ranbarth Abertawe hefyd gael ei ddefnyddio fel cyfle i ddenu buddsoddiad.

 

Anogodd Rob FrowenMartin Davies i siarad â’i awdurdodau lleol. Esboniodd fod Cyngor Dinas Casnewydd yn aml yn cwrdd â rhanddeiliaid a bod angen fawr o berswâd. Gallai cydweithredu rhwng awdurdodau fod yn opsiwn.

 

Esboniodd Martin Daviesmai dim ond newydd ddeffro i’r ffaith bod ganddo gamlas y mae ei awdurdod lleol yntau. Mae ef yn gobeithio y bydd canŵau’n dod yn ôl i’r gamlas cyn bo hir a phwysleisiodd y manteision iechyd a ddaw yn sgîl y gweithgaredd hwn.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Wellingtonmor bwysig yw brwydro yn erbyn pibellu camlesi neu osod concrid drostynt, neu’u hatal rhag cael eu hadfer mewn ffyrdd eraill yn y dyfodol.

 

Mynegodd Martin Daviesbryderon y byddai amddiffyniad rhag datblygu yn cael ei ddirymu. 

 

Esboniodd Andrew Stumpffod camlesi eraill wedi cael y broblem hon ond maent wedi’i herio’n llwyddiannus. Cyfeiriodd at Ddyfrffordd Bedford Milton Keynes yn benodol, ond hefyd Camlas Henffordd a Chaerloyw.

 

Ailadroddodd Christina Harrhyfod Rob Frowen yn cynghori pobl i gysylltu â chynghorau lleol, oherwydd dim ond gydag arweinyddiaeth dda a pharhaus y bydd modd gwireddu’r prosiectau hyn.

 

Ychwanegodd Martin Daviesfod Cyngor Abertawe yn llawer gwell na Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn hyn o beth.

 

Nododd Gareth Hughesfod 11 o’r 19 o lociau wedi’u hadfer ar gamlas Castell-nedd.  Erfyniodd Ymddiriedolaeth Camlas Castell-nedd ar y cyngor i sefydlu’r mathau hyn o bartneriaethau ddwy flynedd yn ôl, ond ni chafodd ateb. Mae’r camlesi hyn dan berchnogaeth breifat, ac mae gan eu perchnogion ddiddordeb mewn pethau eraill yn hytrach nag adfywio. Ei ddadl ef oedd bod angen i awdurdodau lleol gymryd yr awenau yn hyn o beth. 

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Wellingtony byddai’n codi’r mater ag arweinwyr cynghorau eraill drwy’r cyfryngau llywodraeth leol. 

 

Awgrymodd Andrew Stumpf fod angen i’r  prosiect gael ei gyflwyno mewn iaith y gall y gynulleidfa ei deall, a’r dystiolaeth gefnogol yr un modd. Mae tystiolaeth yn fuddiol o ran cefnogi gweledigaeth y prosiect.

 

Cadarnhaodd Gareth Hughesfod astudiaethau dichonoldeb wedi’u cwblhau.

 

Nododd Peter Colefod digon o weithgarwch yn digwydd o amgylch camlesi, yn hytrach nag ynddynt. Felly, mae arweinyddiaeth a phartneriaeth yn hanfodol i gynyddu i’r eithaf botensial y gweithgaredd hwn.

 

Roedd Bernard Illmanyn croesawu sylwadau’r Cynghorydd Wellington ar drefnu cyfarfod er mwyn cynnwys Aelodau’r Cynulliad. Byddai ymweliadau â safleoedd yn fonws, ychwanegodd.

 

Eglurodd y Cynghorydd Wellingtony newidiadau sy’n digwydd ym maes llywodraeth leol yn sgîl argymhellion y Dinas-ranbarthau a Chomisiwn William. Mae’n rhaid i’r cam o adfywio camlesi gael ei integreiddio yn y cysyniad o Ddinas-ranbarthau.

 

Ychwanegodd Carole Jacobsfod y prosiect Dinas-ranbarthau yn rhoi gobaith i bobl eraill sy’n ei chael yn anodd.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Wellingtonfod Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gofyn yn benodol bod twristiaeth yn rhan allweddol o’r Dinas-ranbarthau, felly mae angen i ni eu dwyn i gyfri yn hyn o beth.

 

Nododd Christina Harrhyhefyd fod y cylch nesaf o arian Ewropeaidd ynglŷn â thwf economaidd, a bod yn rhaid i awdurdodau lleol gydweithio ar hyn. Mae’n rhaid i brosiectau fod yn eiconig.

 

Ychwanegodd Brian Hancockei fod yn ymfalchïo mai hwn yw’r Grŵp Trawsbleidiol sydd wedi parhau am yr amser hiraf. Pan oedd yn Aelod Cynulliad, galwodd am strategaeth ar Gamlesi a Dyfrffyrdd, a’r datblygiad hwn yw’r hyn a gyflawnwyd o’r diwedd.

 

Gofynnodd Julia Fallon pa risgiau ac ansicrwydd a oedd gan Christina ynghylch cynlluniau adfywio Torfaen. 

 

Eglurodd Christina Harrhyy bydd y broses gaffael yn allweddol.

 

Gofynnodd Julia Fallon a fyddai mwy nag un datblygwr yn rhan o’r prosiect?

 

Nododd Christina Harrhy mai dyddiau cynnar yw hi ar hyn o bryd, ac nad yw Cyngor Torfaen yn gwybod faint a fydd.

 

Awgrymodd Andrew Stumpf y gallai nifer o adeiladwyr tai unigol ddod i’r amlwg o fewn unrhyw ddatblygiad unigol.

 

Ychwanegodd Christina Harrhy fod nifer o adeiladwyr tai wedi dangos cefnogaeth.

 

Holodd Julia Fallonbeth oedd lefel y gefnogaeth gyhoeddus i’r datblygiadau hyn.

 

Ymatebodd y Cyngh Wellington fod lefel y gefnogaeth yn sylweddol iawn. Byddai dod â’r gamlas i ganol y dref yn gyfle i greu canolfan ddiwylliannol yng Nghwmbrân. Nid yw hyn a wnelo â chychod yn unig, mae a wnelo â chreu swyddi.

 

Nododd Rob Frowenlwyddiant yr ŵyl Trailboat Genedlaethol yng Nghasnewydd a ddenodd 15,000 o ymwelwyr. Nid oedd y mwyafrif o’r ymwelwyr yn gwybod bod y gamlas yno hyd yn oed.

 

Pwysleisiodd Christina Harrhyfod cyfathrebu yn holl bwysig.

 

 

Eitem 4: Unrhyw Fater Arall

 

Nododd Andrew Stumpf fod stormydd y gaeaf wedi achosi difrod sylweddol, gyda thirlithriadau ar Gamlas Llangollen a Chamlas Sir Fynwy a Brycheiniog. I Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn Llan-ffwyst y digwyddodd y difrod mwyaf, ond mae tri chwarter y gamlas yn parhau ar agor. Mae’r llwybr halio hefyd yn agored, ac wedi’i ddargyfeirio o amgylch y safle gwaith. Mae gwaith atgyweirio wedi dechrau eisoes, a’r nod yw cael y ddwy gamlas yn agored yn llawn cyn gynted ag y bo’n ymarferol.  Bydd atgyweirio’r ddwy gamlas yn costio oddeutu £1.5 miliwn. Mae’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yn gweithio gyda phobl sy’n llogi cychod, er mwyn lleihau i’r eithaf unrhyw darfu ar eu busnesau.

 

Cododd Chris Chartersy mater o fynediad i’r dyfrffyrdd ar gyfer canŵau. Bu Cymdeithas Gweithwyr Awyr Agored Proffesiynol Prydain yn trafod cytundebau mynediad boddhaol gyda defnyddwyr dŵr eraill, a hyd yma mae wedi sicrhau cytundebau rhatach mewn sawl achos. Achosir problemau pan fydd pysgotwyr am gael dŵr tawel a chaiacwyr am gael dŵr gwyn. Dosbarthodd ychydig o lenyddiaeth am waith y sefydliad.

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf: 11 Mehefin